Busnes fferm ydym, mam (Tanya), a merch (Erinna). Rydym yn bugeilio fel tenantiaid fferm fynydd yng Nghanolbarth Cymru, sy’n rhan o Stad Ymddiriedolaeth Cwm Elan
Mae’n gymharol brin gweld dwy ferch yn rheoli fferm mor anghysbell, ac rydym yn cydnabod pa mor ffodus ydym i allu gwneud y gorau o’r cyfle hwn (ynghyd ag wynebu ei heriau wrth gwrs!).
Mae Tanya wedi bod yn bugeilio ar y fferm ers dechrau’r 1980au ac mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o ymarfer ffermio cynaliadwy – ffermio law yn llaw â natur a chadwraeth amgylcheddol.
Mae Erinna, sy’n ffermwr ifanc a bugail brwdfrydig, yn Llysgennad y Genhedlaeth Nesaf gyda’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA Cymru). Treuliodd ei phlentyndod ar y fferm yn helpu ei Thaid gyda’r da byw, ac yn paratoi bwyd gyda’i Nain yn ystod crynoadau defaid ar y fferm. Ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Amaethyddol Gelli Aur, treuliodd rai blynyddoedd yn gwneud gwaith contract godro gwartheg ar ffermydd ledled y DU, cyn dychwelyd i Gwm Elan i weithio mewn canolfan ymwelwyr leol.

Rydym yn gwerthfawrogi:
Bwyd maethlon o ansawdd uchel fel rhan o fwyta’n iach, cytbwys a fforddiadwy
Mae Erinna yn gogydd ac yn oruchwyliwr arlwyo cymwys a phrofiadol. Mae hi hefyd yn ymgynghorydd gyda chwmni colli pwysau enwog ar gyfer grŵp cymunedol lleol. Mae’n awyddus iawn i hybu ffordd o fyw a bwyta cytbwys ac iach. Erinna sydd yn arwain ein datblygiad cynnyrch yma yn WildShepherd.
Lleol
Er mwyn lleihau’r straen ar ein da byw ac i leihau ein hôl troed carbon, rydym yn hyrwyddo ffermio cynaliadwy law yn llaw â natur, yn defnyddio lladd-dy lleol, yn gwneud ein cynnyrch yn ein huned cigyddiaeth gartref ar y fferm, ac yn buddsoddi yn ein systemau ynni nad ydynt ar y grid ac ynni adnewyddadwy i redeg y fferm.
Da byw a Safonau Ansawdd Rhagorol
Mae gennym amrywiaeth o dda byw gan gynnwys defaid, geifr, cŵn defaid a merlod Cymreig (ar gyfer bugeilio). Rydyn ni’n arddangos ein da byw ac wedi ennill llawer o wobrau gan gynnwys pencampwriaethau mewn sioeau amaethyddol mawr. Sylfaen ein ffermio yw lles ein hanifeiliaid a safonau ansawdd rhagorol law yn llaw â natur.