Law yn Llaw â Natur
Beth yw pwysigrwydd hyn i fyd Natur?
Mae’r fferm mewn man anghysbell o fewn ehangder helaeth Llwyfandiroedd Elenydd yng nghanol Mynyddoedd Cambrian Cymru. Mae’r fferm yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o fewn Ardal Amddiffyn Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig dynodedig Elenydd – a gydnabyddir yn rhai o’r ucheldiroedd pwysicaf ar gyfer cadwraeth natur yn Ewrop.
Fyny yn uchel yn Cwm Elan, mae ei thir yn frithwaith o gynefinoedd ucheldirol heb eu gwella [heb eu cyffwrdd]; gorgors, glaswelltiroedd sur, nentydd a llynnoedd sy’n bwysig i adar nythu ynghyd ac amrywiaeth o blanhigion anghyffredin a phrin.
Mae arolygon gwyddonol ar y fferm wedi cofnodi cannoedd o rywogaethau o blanhigion, algâu, adar, bryoffytau, infertebratau, cen, mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid (Aderyn UK taxon).
Er engraifft:
- Llwyfandir yr ucheldir – mae rhannau uchaf y fferm yn cynnwys llwyfandir gydag ardaloedd mawr o gorgosiau yn porthi planhigion arbenigol sy’n hoff o asid megis mwsoglau migwyn, ffa’r gors ac arddangosfa haf anhygoel o Lafn y Bladur melyn, llachar. Mae’r rhain yn gartref i amrywiaeth o adar ucheldir prin a gofnodwyd ar y fferm gan gynnwys y Cwtiad Aur, y Dylluan Glustiog, Pibydd y Mawn a’r Cudyll Bach .Mae dŵr glân Llyn Cerrigllwyidion Isaf (llyn yn uchel ar y fferm) yn gartref i llyriad dŵr arnofiol, sydd i’w cael ond yr ardaloedd dyfrol o’r ansawdd gorau ac sy’n cael ei gydnabod fel rhywogaeth o’r pwys mwyaf yng Nghymru a’r DU “un o’r planhigion pwysicaf ym Mhrydain, am resymau cadwraeth natur a chadwraeth genetig .” (BSBI)
- Nentydd a dyffrynnoedd – wrth i gorsydd a llynnoedd y llwyfandir uchel ddraenio ar draws y fferm tuag at Afon Elan, maent yn ffurfio rhwydwaith o nentydd wedi’u hamgylchynu gan ochrau’r cymoedd. Mae’r nentydd hyn yn gartref i’r Trochwyr a’r Siglennod Llwyd, tra fo’r cymoedd cyfagos yn atseinio i gân Tinwen y Garn, Clochdar y Cerrig a Crec yr Eithin. Mae ymylon y nentydd hefyd yn gartref i blanhigion diddorol fel y Clychlys Dail Eiddew (planhigyn sydd dan fygythiad oherwydd gor-bori defaid)sydd i’w gael ar ein fferm yn y rhuthr dŵr a achosir gan lif naturiol y nentydd.
- Ffriddoedd o amgylch y tyddyn – mae tir y fferm wedi’i wasgaru dros dir agored eang gyda llai na phump y cant ohono wedi’i ffensio yn ffriddoedd o amgylch y tyddyn. Felly mae ffensys yn olygfa brin ar y fferm hon. Mae’r ffriddoedd hyn yn ein helpu i reoli ein diadelloedd ar adegau pwysig fel wyna a chneifio. Lle cawsant eu gwella’n sensitif ar gyfer amaethyddiaeth maent yn parhau i fod yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys y gylfinir, llygoden bengron y dŵr, llwynogod a gwencïod. Ar y ffriddoedd rydym hefyd wedi plannu cannoedd o goed sy’n cynnal amrywiaeth o rywogaethau ac yn darparu cysgod.