Ein Cynnyrch
Fel rhan o fwyta’n iach a chytbwys
Mae cig oen yn naturiol gyfoethog o brotein, yn isel mewn sodiwm, ac yn darparu fitaminau a mwynau sy’n cyfrannu at iechyd a llesiant da*.
Nodwch, os gwelwch yn dda, mae ein cynnyrch yn dymhorol, yn tyfu yn araf a naturiol, a wedi ei greu i archeb. Cysylltwch o leiaf un wythnos o flaen llaw gyda’ch archeb os gwelwch yn dda.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gig oen, cig hesbwrn/hesbin a chig dafad **, er enghraifft
Toriadau WildShepherd
- Cig oen Cymraeg wedi’i ddeisio
- Briwgig oen Cymraeg, Hesbwrn/hesbin neu gig dafad
- Cytledi, siancen, stêc a darnau Cig oen Cymraeg
- Stêc, siancen, a darnau cig hesbwrn/hesbin a chig dafad ar gyfer rhostio a choginio’n araf
Byrgyrs WildShepherd
- Byrgyr Cig Oen Cymraeg
- Byrgyr Cig Oen Cymraeg a Mintys
- Byrgyr Cig Oen Cymraeg, Rhosmari a Garlleg
- Byrgyr y Bugail (Cig oen, hesbwrn/hesbin, cig dafad wedi’i dyfu’n araf)
- Byrgyr y Bugail Mintys (Cig oen, hesbwrn/hesbin, cig dafad wedi’i dyfu’n araf)
- Byrgyr y Bugail Rhosmari a Garlleg (Cig oen, hesbwrn/hesbin, cig dafad wedi’i dyfu’n araf)
Cebab WildShepherd
- Cebabs Cig Oen Cymraeg Chilli Melys
- Kofta Cig Oen Cymraeg
- Cebabs Kofta Cig Oen a Mintys
- Cebabs Shish neu Kofta y Bugail (Cig oen, hesbwrn/hesbin, cig dafad wedi’i dyfu’n araf)
Peli cig ‘gwneud eich hun’ WildShepherd
- Briwgig cig oen, hesbwrn/hesbin neu gig dafad WildShepherd – wedi’i sesno gyda’n cyfuniad arbennig ein hunain o berlysiau a sbeisys – yn barod i chi siapio i’ch maint dewisol a choginio gyda’ch hoff saws
Mae fersiynau di-glwten o’n hamrywiaeth o fyrgyrs, cebabs a pheli cig ar gael hefyd. Ychwanegwch unrhyw ofynion di-glwten i’ch archeb os dymunwch.
** Mae’r termau cig oen, hesbwrn/hesbin (hogget), cig dafad yn cyfeirio at oedran y ddafad: cig oen (hyd at 12 mis); hesbwrn/hesbin (hogget) (12-24 mis), a chig dafad (24 mis +), ac mae’n nodi tynerwch a chyfoethogrwydd y blas.
Byddem wrth ein bodd yn gweld pa ffyrdd rydych chi’n mwynhau ein cynnyrch, felly anfonwch eich ryseitiau a’ch lluniau atom.
Beth am roi cynnig ar y ryseitiau Cig Oen Cymraeg yma:
Gwefannau Gwerthfawr
- Am ragor o wybodaeth am ryseitiau cig oen Cymru, ewch i’r gwefannau hyn: Gwefan HCC Welsh Lamb; gwefanSimply Lamb Recipes
- *Am fwy o wybodaeth ynglŷn a buddion iechyd cig oen, ewch i wefan AHDB Six Healthy Reasons website
- Am ragor o wybodaeth am gig dafad Artisan / Treftadaeth, ewch I wefan NSA’s British Heritage Sheep – New tastes from old traditions website



